Welsh Archives - Freedom by Marion Bloem https://freedombymarionbloem.com/language/welsh/ A poem to understand the meaning of the concept FREEDOM Sat, 18 May 2019 20:09:24 +0000 en-US hourly 1 https://wordpress.org/?v=6.8.3 Rhyddid in Welsh by Ann Fychan https://freedombymarionbloem.com/rhyddid-in-welsh-by-ann-fychan/ https://freedombymarionbloem.com/rhyddid-in-welsh-by-ann-fychan/#respond Wed, 13 Feb 2013 23:00:00 +0000 https://freedom.pilvia.site/?p=117 Rhyddid Os mai bod yn rhydd yw: cau dy geg am fod gen i rywbeth i’w ddweud Os mai bod yn rhydd yw: ti mewn cell fel nad oes raid i ni ofni dy fod yn wahanol yn yr hyn a wnei, neu’r hyn na wnei Os mai bod yn rhydd yw: rhoi ffurf i […]

The post Rhyddid in Welsh by Ann Fychan appeared first on Freedom by Marion Bloem.

]]>

Rhyddid

Os mai bod yn rhydd yw: cau dy geg
am fod gen i rywbeth i’w ddweud

Os mai bod yn rhydd yw: ti mewn cell
fel nad oes raid i ni ofni
dy fod yn wahanol
yn yr hyn a wnei, neu’r hyn na wnei

Os mai bod yn rhydd yw: rhoi ffurf i
yfory trwy droi heddiw’n
llai o ddiwrnod

Os mai bod yn rhydd yw: cau drysau
i wylio’n ‘rhydd’ ar sgrin
bob dim y dylid ei gadw’n ddirgel

Os mai bod yn rhydd yw: cysgu’n ysgafn bob amser
am i dafodau eraill gael eu torri ymaith yn faleisus

Os mai bod yn rhydd yw: bwyta beth a fynni
pryd a fynni,
gan daflu’r pilion i bapur newydd
lle mae newyn yn llechu.

Os mai bod yn rhydd yw: dim angen gwybod
pa beth a’m rhyddhaodd, pa beth a’m ceidw’n rhydd,
pa beth a’m caethiwa mewn rhyddid beunydd.

Os rhyddid yw: aros hyd nes i
rywun yr ymddiriedaf yn llwyr ynddo
fy rhyddhau o’m hofnau

Os yw rhyddid wedi’i blastro ar fy meddyliau,
Os yw rhyddid yn chwa o’m cwmpas
ac oddi mewn i mi,
a thithau’n methu’i ddal

Os yw rhyddid yn fy ngwarchod
rhag dy syniadau di, sydd
mor wahanol i fy rhai i

Os yw rhyddid yn ymddangos
mor naturiol i mi heddiw, a
thithau’n methu deall ei ystyr

Yna, mae rhyddid yn ‘gynffon’ i mi
ac yn ‘ben’ i tithau,
nid yw ond mympwy llawn awyr

Ond O! am fod yn rhydd
fel y medraf gefnu ar
beth o’m rhyddid helaeth – dim ond
os yw pawb yn gytûn wrth gwrs –
am ennyd neu am ysbaid hir
fel y gellir dy ryddhau
o’m rhyddid caethiwus i.

Marion Bloem

Coordinates: 52° 36′ 0″ N, 3° 46′ 1.2″ W
Location: Abercegir, Wales – United Kingdom
Welsh translation by Ann Fychan
From English translation “Freedom” by Martin Cleaver

Cyfieithiad Cymraeg gan Ann Fychan
Welsh translation by Ann Fychan

The post Rhyddid in Welsh by Ann Fychan appeared first on Freedom by Marion Bloem.

]]>
https://freedombymarionbloem.com/rhyddid-in-welsh-by-ann-fychan/feed/ 0