Rhyddid
Os mai bod yn rhydd yw: cau dy geg
am fod gen i rywbeth i’w ddweud
Os mai bod yn rhydd yw: ti mewn cell
fel nad oes raid i ni ofni
dy fod yn wahanol
yn yr hyn a wnei, neu’r hyn na wnei
Os mai bod yn rhydd yw: rhoi ffurf i
yfory trwy droi heddiw’n
llai o ddiwrnod
Os mai bod yn rhydd yw: cau drysau
i wylio’n ‘rhydd’ ar sgrin
bob dim y dylid ei gadw’n ddirgel
Os mai bod yn rhydd yw: cysgu’n ysgafn bob amser
am i dafodau eraill gael eu torri ymaith yn faleisus
Os mai bod yn rhydd yw: bwyta beth a fynni
pryd a fynni,
gan daflu’r pilion i bapur newydd
lle mae newyn yn llechu.
Os mai bod yn rhydd yw: dim angen gwybod
pa beth a’m rhyddhaodd, pa beth a’m ceidw’n rhydd,
pa beth a’m caethiwa mewn rhyddid beunydd.
Os rhyddid yw: aros hyd nes i
rywun yr ymddiriedaf yn llwyr ynddo
fy rhyddhau o’m hofnau
Os yw rhyddid wedi’i blastro ar fy meddyliau,
Os yw rhyddid yn chwa o’m cwmpas
ac oddi mewn i mi,
a thithau’n methu’i ddal
Os yw rhyddid yn fy ngwarchod
rhag dy syniadau di, sydd
mor wahanol i fy rhai i
Os yw rhyddid yn ymddangos
mor naturiol i mi heddiw, a
thithau’n methu deall ei ystyr
Yna, mae rhyddid yn ‘gynffon’ i mi
ac yn ‘ben’ i tithau,
nid yw ond mympwy llawn awyr
Ond O! am fod yn rhydd
fel y medraf gefnu ar
beth o’m rhyddid helaeth – dim ond
os yw pawb yn gytûn wrth gwrs –
am ennyd neu am ysbaid hir
fel y gellir dy ryddhau
o’m rhyddid caethiwus i.
Marion Bloem
Coordinates: 52° 36′ 0″ N, 3° 46′ 1.2″ W
Location: Abercegir, Wales – United Kingdom
Welsh translation by Ann Fychan
From English translation “Freedom” by Martin Cleaver
Cyfieithiad Cymraeg gan Ann Fychan
Welsh translation by Ann Fychan